Beyond Supermarkets

Ailadeiladu sylfeini diogelwch bwyd, amaethyddiaeth a bywoliaethau gwledig Cymru.

Un fferm ar y tro.

Beyond Supermarkets

Ailadeiladu sylfeini diogelwch bwyd, amaethyddiaeth a bywoliaethau gwledig Cymru.

Un fferm ar y tro.

Pam hyn, pam nawr?

Pedair problem allweddol sy'n gysylltiedig yn ddwfn.

Gyda hachosion cyffredin s'yn galw am ymateb cyffredin.

Y Rhifau

Fesul Uned Fferm:

Gofyniad Tîr

120-150 hectar (daliadau llaeth presennol)

Gweithlu Preswyl

10-12 o pobl

Cartrefi wedi’u bwydo

~600

Pobl wedi’u bwydo

~1,400

Cost aelwyd wythnosol

~£60

Refeniw blynyddol y fferm

~£1.87 miliwn

Cartrefi fforddiadwy wedi’u creu

~7

Ar Raddfa Ranbarthol: 200 o Ffermydd

Cartrefi wedi’u bwydo

~100,000 – 110,000

Swyddi gwyrdd gwledig wedi’u creu

~2,000

Cartrefi fforddiadwy wedi’u creu

~1,400

CO₂e a dynnwyd yn blynyddol

~18,000 tunnell

Amaethgoedwigaeth wedi’i sefydlu

~4,000 hectarau

Pwy sy'n gwneud i hyn ddigwydd

Wedi'i adeiladu ar y cyd, gan y bobl sy'n byw y cyfan.

I Ffermwyr: Llwybr drwy'r ansefydlogrwydd

Chi'n cadw eich fferm, eich buches, a'ch hunaniaeth fel ffermwr.

 

Mae Beyond Supermarkets yn ychwanegu gweithlu lleol, capasiti prosesu, ffrydiau incwm amrywiol, a marchnad sydd wedi'i gwreiddio'n lleol. Nid ydych yn cefnu ar y diwydiant llaeth; yn hytrach, rydych yn ail-drefnu o amgylch model ehangach a mwy gwydn.

 

O dan yr amgylchiadau presennol, os yw eich llaeth yn gadael y fferm am 40c y litr, mae model Beyond Supermarkets yn rhoi gwerth dangosol o 60c i'r un llaeth hwnnw pan gaiff ei gyfeirio at brosesau ar y fferm, gan adlewyrchu ei rôl fel mewnbwn ar gyfer cynhyrchion o werth uwch.

 

Wrth gymhwyso hyn at yr 11,400 litr yr wythnos sy'n cael eu hailgyfeirio i economi uned y fferm, mae'r cynnydd hwnnw yn unig yn creu refeniw blynyddol ychwanegol sylweddol. Dim cynnydd yn maint y fuches. Dim cynnydd yn arwynebedd y tîr. Dim cynnydd yn eich cyfanswm allbwn.

I'r rhai sydd eisiau adeiladu rhywbeth: Byw ar y Tîr

Mae menter fferm 'Beyond Supermarkets' yn dibynnu ar gymysgedd o sgiliau. Y crefftau sy'n ei chynnal: trydanwyr, plymwyr, weldwyr, mecanegwyr. Y disgyblaethau sy'n sicrhau ei hyfywedd ariannol a'i gwelededd: cyfrifwyr, arbenigwyr marchnata, arbenigwyr cyfathrebu. Y dwylo sy'n tyfu ac yn cynhyrchu: garddwyr, gofalwyr dabystoc, proseswyr bwyd, pobyddion, gwneuthurwyr caws. Y bobl sy'n mesur ac yn dilysu: ecolegwyr, dilyswyr carbon, gwyddonwyr pridd. Y rhai sy'n cadw'r gymuned ynghyd: nyrsys, gofalwyr, addysgwyr.

 

Yn gyfnewid am hynny: cartref ar y tir, cyfran mewn menter fferm weithredol, a bywoliaeth ddiogel a adeiladwyd ochr yn ochr ag eraill.

Ar gyfer Partneriaid a Buddsoddwyr: Y Grid Bwyd Rhanbarthol

Mae Beyond Supermarkets yn fodel y gellir buddsoddi ynddo sy'n cysylltu diogelwch bwyd, tynnu carbon, tai gwledig a datblygu economaidd rhanbarthol o fewn un strwythur y gellir ei ailadrodd.

Mae pob menter fferm yn ariannu ei hun trwy fuddsoddiad cyfunol gan drigolion o tua £300,000. Nid oes angen caffael tir, ac mae refeniw yn dechrau gyda'r llaeth cyntaf sy'n cael ei brosesu ar y fferm.

 

Mae'r model yn cyd-fynd â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cynllunio Datblygu Un Blaned, a Chymru sero net.

 

P'un a ydych yn sefydliad ariannol, yn gorff cyhoeddus neu'n ariannwr systemau bwyd, cysylltwch â ni.

Y Manylion

Y Model Llawn

Mae'r model economaidd cyflawn – gan gynnwys rhagamcanion ariannol, meincnodau dietegol, capasiti cynhyrchu, gofynion llafur a llwybrau pontio – wedi'i amlinellu yn nogfen sylfaenol Beyond Supermarkets, sydd ar gael yn Saesneg yn unig, ar hyn o bryd