Beyond Supermarkets
Ailadeiladu sylfeini diogelwch bwyd, amaethyddiaeth a bywoliaethau gwledig Cymru.
Un fferm ar y tro.
Beyond Supermarkets
Ailadeiladu sylfeini diogelwch bwyd, amaethyddiaeth a bywoliaethau gwledig Cymru.
Un fferm ar y tro.
Beth sydd yn yr adroddiad?
Rhaglen i ad-drefnu ffermydd llaeth partner yng Nghymru yn bentrefi-ffermydd integredig, lle mae gweithlu preswyl yn byw ar y tîr, yn prosesu bwyd ar y fferm, ac yn cyflenwi diet wythnosol cyflawn i aelwydydd cyfagos.
Pam hyn, pam nawr?
Pedair problem allweddol sy'n gysylltiedig yn ddwfn.
Gyda hachosion cyffredin s'yn galw am ymateb cyffredin.
Sut mae'n gweithio
Mae uned fferm 'Beyond Supermarkets' yn cael ei hadeiladu ar fferm laeth bresennol o 120-150 hectar. Mae'r ffermwr yn cadw ei fuches a'i dir; yr hyn sy'n newid yw'r gymuned sydd wedi'i hymgorffori ynddi, a'r hyn arall y mae'r fferm yn ei gynhyrchu.
Y Rhifau
Fesul Uned Fferm:
Gofyniad Tîr
120-150 hectar (daliadau llaeth presennol)
Gweithlu Preswyl
10-12 o pobl
Cartrefi wedi’u bwydo
~600
Pobl wedi’u bwydo
~1,400
Cost aelwyd wythnosol
~£60
Refeniw blynyddol y fferm
~£1.87 miliwn
Cartrefi fforddiadwy wedi’u creu
~7
Ar Raddfa Ranbarthol: 200 o Ffermydd
Cartrefi wedi’u bwydo
~100,000 – 110,000
Swyddi gwyrdd gwledig wedi’u creu
~2,000
Cartrefi fforddiadwy wedi’u creu
~1,400
CO₂e a dynnwyd yn blynyddol
~18,000 tunnell
Amaethgoedwigaeth wedi’i sefydlu
~4,000 hectarau
Pwy sy'n gwneud i hyn ddigwydd
Wedi'i adeiladu ar y cyd, gan y bobl sy'n byw y cyfan.
I Ffermwyr: Llwybr drwy'r ansefydlogrwydd
Chi'n cadw eich fferm, eich buches, a'ch hunaniaeth fel ffermwr.
Mae Beyond Supermarkets yn ychwanegu gweithlu lleol, capasiti prosesu, ffrydiau incwm amrywiol, a marchnad sydd wedi'i gwreiddio'n lleol. Nid ydych yn cefnu ar y diwydiant llaeth; yn hytrach, rydych yn ail-drefnu o amgylch model ehangach a mwy gwydn.
O dan yr amgylchiadau presennol, os yw eich llaeth yn gadael y fferm am 40c y litr, mae model Beyond Supermarkets yn rhoi gwerth dangosol o 60c i'r un llaeth hwnnw pan gaiff ei gyfeirio at brosesau ar y fferm, gan adlewyrchu ei rôl fel mewnbwn ar gyfer cynhyrchion o werth uwch.
Wrth gymhwyso hyn at yr 11,400 litr yr wythnos sy'n cael eu hailgyfeirio i economi uned y fferm, mae'r cynnydd hwnnw yn unig yn creu refeniw blynyddol ychwanegol sylweddol. Dim cynnydd yn maint y fuches. Dim cynnydd yn arwynebedd y tîr. Dim cynnydd yn eich cyfanswm allbwn.
I'r rhai sydd eisiau adeiladu rhywbeth: Byw ar y Tîr
Mae menter fferm 'Beyond Supermarkets' yn dibynnu ar gymysgedd o sgiliau. Y crefftau sy'n ei chynnal: trydanwyr, plymwyr, weldwyr, mecanegwyr. Y disgyblaethau sy'n sicrhau ei hyfywedd ariannol a'i gwelededd: cyfrifwyr, arbenigwyr marchnata, arbenigwyr cyfathrebu. Y dwylo sy'n tyfu ac yn cynhyrchu: garddwyr, gofalwyr dabystoc, proseswyr bwyd, pobyddion, gwneuthurwyr caws. Y bobl sy'n mesur ac yn dilysu: ecolegwyr, dilyswyr carbon, gwyddonwyr pridd. Y rhai sy'n cadw'r gymuned ynghyd: nyrsys, gofalwyr, addysgwyr.
Yn gyfnewid am hynny: cartref ar y tir, cyfran mewn menter fferm weithredol, a bywoliaeth ddiogel a adeiladwyd ochr yn ochr ag eraill.
Ar gyfer Partneriaid a Buddsoddwyr: Y Grid Bwyd Rhanbarthol
Mae Beyond Supermarkets yn fodel y gellir buddsoddi ynddo sy'n cysylltu diogelwch bwyd, tynnu carbon, tai gwledig a datblygu economaidd rhanbarthol o fewn un strwythur y gellir ei ailadrodd.
Mae pob menter fferm yn ariannu ei hun trwy fuddsoddiad cyfunol gan drigolion o tua £300,000. Nid oes angen caffael tir, ac mae refeniw yn dechrau gyda'r llaeth cyntaf sy'n cael ei brosesu ar y fferm.
Mae'r model yn cyd-fynd â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cynllunio Datblygu Un Blaned, a Chymru sero net.
P'un a ydych yn sefydliad ariannol, yn gorff cyhoeddus neu'n ariannwr systemau bwyd, cysylltwch â ni.
Y Manylion
Y Model Llawn
Mae'r model economaidd cyflawn – gan gynnwys rhagamcanion ariannol, meincnodau dietegol, capasiti cynhyrchu, gofynion llafur a llwybrau pontio – wedi'i amlinellu yn nogfen sylfaenol Beyond Supermarkets, sydd ar gael yn Saesneg yn unig, ar hyn o bryd


